Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad
y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser
y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (156) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 5 a 7 i 11. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
3 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 10 a 12 i 15. Trosglwyddwyd cwestiwn 11 i’w ateb yn ysgrifenedig. Atebwyd cwestiynau 3, 9, 12, 13 a 14 gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y swyddi posibl a gaiff eu colli yn First Milk ym Maelor?
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NDM5332 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 4(1) a 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:
1. Yn penodi Isobel Garner, Peter Price, David Corner, Christine Hayes a Steven Burnett yn aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru; a
2. Yn penodi Isobel Garner yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Cynnig i gytuno ar daliadau aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NDM5333 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 7(1) a 7(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013:
1. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £25,000 y flwyddyn i Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a
2. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £12,500 y flwyddyn i aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru.
Sylwer: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar benodi aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Cynnig i ddiwygio RhS18 mewn cysylltiad â Chyfrifon Cyhoeddus ac arolygiaeth Swyddfa Archwilio Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.23
NDM5329 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 18 – Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 18 ac 20:
(a) fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar unwaith; a
(b) fel y nodir yn Atodiad D i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar 1 Ebrill 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NDM5334 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid fel ei fod, yn ogystal â’i swyddogaethau presennol, yn cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NNDM5325 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod risg uchel llusernau awyr i ddiogelwch y cyhoedd, i adeiladau a strwythurau, ac i les anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i rinweddau cyfyngu ar ryddhau llusernau awyr yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr Ymchwiliad i weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol
Dechreuodd yr eitem am 16.03
NDM5328 David Rees (Aberafan)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10Dadl i geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Llythrennedd Ariannol (Bethan Jenkins)
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5299 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Bethan Jenkins gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 11 Gorffennaf 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
15 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.34
11Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.35
NDM5330 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Awtistiaeth: Yr angen am ddiagnosis amserol yng Nghymru
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 17:59
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 22 Hydref 2013